Wel, mae’r hâf yn dirwyn i ben ac mae yna flwyddyn academaidd newydd ar fîn cychwyn. Roedd wythnos cyntaf mis Medi yn wythnos gyffroes pan oeddwn i yn blentyn. Doedd y cyfryngau cymdeithasol ddim yn bodoli ar y pryd, felly os ddim byd arall, roedd mynd yn ol i’r ysgol yn gyfle da i ddal i fyny efo ffrindiau a chlywed hanesion yr haf.
Tybed a oeddech chi, fel fi yn gwneud pob math o benderfyniadau ar ddechrau mis Medi ar gyfer y blwyddyn oedd i ddod? Addunedau oedd ddim yn anhebyg i’r addunedau y byddwn yn eu gwneud ar ddechrau blwyddyn galendr newydd? O’n i am weithio’n galetach, cael marciau gwell, bwyta’n fwy iachus, ymarfer mwy o scales ar y piano a phob math o bethau eraill…!
Wrth i mi edrych ar fy nyddiadur ar gyfer y mis sydd i ddod, mae geiriau doeth y diwinydd Almaenig Dietrich Bonhoeffer yn dod i’r meddwl sef fod “Rhaid i ni fod yn barod i ganiatau i Dduw dorri ar ein traws.” Faint bynnag mor llawn yw fy nyddiadur, dwi ddim am fod mor brysur ac anhyblyg fel nad ydw i’n rhydd i’r Arglwydd fedri ail-gyfeirio fy niwrnod er mwyn i mi wneud beth sydd ar Ei galon a’i agenda Ef. Mae yna adnod yn llyfr Diarhebion sy’n dweud fod “…gan bobl bob math o gynlluniau, ond cynllun yr Arglwydd fydd yn cael ei gyflawni.” Ar ddechrau mis a thymor newydd, boed i’r Arglwydd dorri ar ein traws ni yn aml!