Gyda gȇm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd bellach wedi ei ennill, mae’n siwr y bydd hyfforddwyr, sylwebyddion a chefnogwyr ein tîm rygbi yn treulio’r dyddiau nesaf yn gwerthuso perfformiad ein chwareuwyr ac yn trafod sut y gallen nhw baratoi ar gyfer gwynebu Awstralia ar fore dydd Sul. Wrth gwrs, erbyn hyn nid yn unig ym myd chwaraeon mae gwerthuso perfformiad; mae pobl ym mhob math o swyddi yn gorfod ystyried a ydyn nhw wedi llwyddo i gyrraedd meini prawf llwyddiant eu swyddi, bwrw eu targedau, a pharatoi strategaethau er mwyn gwella a datblygu eu gwasanaethau.

Mae hunan arfarnu a gwerthuso yn medru bod yn beth positif os ydym o ddifri am wella safon ein gwaith, ond gallant hefyd achosi straen a phwysau heb fod angen. Mae’n rhyddhad felly i wybod fod Duw yn ymhyfrydu ynom ni waeth beth yw ein cymwysterau, talentau a’n galluoedd. Nid oes unrhyw weithred y gallwn ei gyflawni fyddai’n achosi Iddo garu ni’n fwy, ac nid oes unrhyw weithred y gallwn ei gyflawni y byddai’n achosi Iddo ein caru ni’n llai. Trugaredd ac nid haeddiant oedd ar feddwl Crist wrth Iddo farw ar y groes. Does neb erioed wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau’u hunain” meddai Paul yn ei lythyr at y Rhufeiniaid, Ond dangosodd Duw i ni gymaint mae’n ein caru ni drwy i’r Meseia farw drosom ni pan oedden ni’n dal i bechu yn ei erbyn!” Mae ymateb i’r cariad hwn yn galluogi ni i fyw mewn perthynas â Iesu, perthynas sydd ddim yn canolbwyntio ar ein haeddianau ond ar râs a thrugaredd anhygoel Duw, ac mae hynny’n rhyddhau ni o’r straen o orfod perfformio ac ennill cymeradwyaeth pobl eraill. 

Sponsored