‘Then a great and powerful wind tore the mountains apart and shattered the rocks before the LORD, but the LORD was not in the wind. After the wind there was an earthquake, but the LORD was not in the earthquake. After the earthquake came a fire, but the LORD was not in the fire. And after the fire came a gentle whisper. When Elijah heard it, he pulled his cloak over his face and went out and stood at the mouth of the cave.’
Have you ever noticed how the news on the TV always starts with the UK-wide announcements before they read the headlines from the devolved nations such as Wales? There are also occasions when things are reversed and the smaller local voice is shared and the whole UK is encouraged to take note of what is happening here in Wales.
My point is that smaller voices are important. God always hears and often uses these voices. Take for example the strangely clad and eccentric prophet “crying in the wilderness”. John’s small voice prepared the way for Jesus’ ministry. Even God Himself chose not to speak to Elijah through the wind or fire but through a whisper.
These big news headlines often catch our attention for a moment, but it’s the testimony of a person, speaking candidly and quietly, that we remember. The small voice of a personal story; this was never lost in the ministry of Jesus. He listened to the stories of the poor, the blind, the widowed, the strangers. The small voices.
Back in March 2019 our local church in Flint drew people together and launched Flint Town of Sanctuary, following the lead of Mold and others in the county. Now we have a Flintshire-wide City of Sanctuary group. The Bible tells us to welcome the stranger, make a place for them and be kind to them (Leviticus 19:33 – 34), so when Syrian refuges started to be officially located in our area, we felt the call to help. The voices of refugees can be very small, marginalised, often ignored and commonly judged. But the Lord hears their story and their voice.
It has been a wonderful pleasure to get to know some of these people, host fun days for them, assist in training and social integration, as well as invite them to share in our lives. Almost every Syrian family in Flintshire joined us last Christmas in a community celebration at our church, all because we invited them. Our voices are small but God has heard us and we are seeing the lives of those in our community change.
Can I encourage you to share and speak up however small you might think your voice is. God hears you and He can amplify and use what is for His kingdom, even our small Welsh voices.
‘Yna dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr ARGLWYDD a tharo'r mynydd a'r creigiau nes achosi tirlithriad; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y daeargryn. Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd yna ddistawrwydd llwyr. Pan glywodd Elias hyn, dyma fe'n lapio'i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof.’
Wnaethoch chi erioed sylwi sut mae’r newyddion ar y teledu bob amser yn dechrau gyda chyhoeddiadau’r DU gyfan cyn iddyn nhw ddarllen penawdau’r cenhedloedd datganoledig megis Cymru? Ceir adegau hefyd, ambell waith, lle mae’r sefyllfa’n cael ei droi ar ei ben a’r llais bach lleol sy’n hawlio’r prif benawdau, gyda’r DU gyfan yn gorfod talu sylw i’r hyn sy’n digwydd yma yng Nghymru.
Fy mhwynt i ydy fod y lleisiau bach yn bwysig. Mae Duw bob amser yn clywed ac yn aml yn defnyddio’r lleisiau hyn. Cymerwch, fel esiampl, y proffwyd rhyfeddol hwnnw yn ei wisg anghyffredin â’i “lais yn gweiddi’n uchel yn yr anialwch”. Llais bach Ioan wnaeth baratoi’r ffordd ar gyfer gweinidogaeth Iesu. Dewisodd Duw ei hun, hyd yn oed, beidio â siarad ag Elias trwy’r gwynt na’r tân, ond wrth sibrwd yn y distawrwydd.
Mae’r penawdau mawr yn aml yn dwyn ein sylw am ychydig, ond tystiolaeth person, yn siarad yn dawel ac yn onest, ydy’r hyn a gofiwn. Llais tawel y stori bersonol – chollodd Iesu fyth yr agwedd hon trwy gydol ei weinidogaeth. Bu’n gwrando ar hanesion y tlawd, y dall, y weddw, y dieithryn. Lleisiau bach i gyd.
Nôl ym mis Mawrth 2019, fe ymgasglodd criw at ei gilydd yn ein heglwys yn Y Fflint, gan lansio Y Fflint: Tref Noddfa, gan ddilyn arweiniad Yr Wyddgrug ac eraill yn y sir. Bellach mae ganddon ni grŵp Dinas Noddfa Sir y Fflint gyfan. Mae’r Beibl yn dweud wrthon ni i groesawu’r dieithryn, gwneud lle ar eu cyfer a bod yn garedig tuag atyn nhw (Lefiticus 19:33 – 34). Felly, pan ddechreuodd ffoaduriaid o Syria gael eu lleoli’n swyddogol yn ein hardal, fe deimlon ni’r alwad i helpu. Mae llais y ffoadur yn gallu ymddangos yn un bach iawn: ar y cyrion, yn ddinod, dibwys ac yn cael ei farnu’n aml. Ond mae’r Arglwydd yn clywed eu stori a gwrando ar eu llais.
Mae hi wedi bod yn bleser pur dod i nabod rhai o’r bobl hyn, cynnal dyddiau hwyl iddyn nhw, cynorthwyo gyda hyfforddiant ac integreiddio cymdeithasol, yn ogystal â’u gwahodd i rannu yn ein bywydau. ‘Dolig diwethaf, fe ymunodd bron pob teulu o Syria yn Sir y Fflint mewn dathliad cymunedol yn ein heglwys, dim ond oherwydd inni eu gwahodd. Mae ein lleisiau’n fach ond mae Duw edi’n clywed ni a bellach rydyn ni’n gweld y bywydau hynny yn ein cymuned yn newid.
Faswn i’n hoffi eich annog i rannu a dweud eich dweud, waeth pa mor ddibwys rydych yn teimlo y mae eich llais. Mae Duw yn eich clywed… ac yn gwrando ac mae ganddo’r gallu i amlygu’r llais hwnnw a’i ddefnyddio i hyrwyddo’i Deyrnas, hyd yn oed ein lleisiau bach ni yng Nghymru.