Sylfaen Ffydd y Cynghrair Efengylaidd

Credwn...

Yn yr unig gwir Dduw sy’n byw’n dragwyddol mewn tri pherson – y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân.
Yng nghariad, gras a phenarglwyddiaeth Duw cynllunio, cynnal, rheoli, adfer a barnu’r byd.
Yn ysbrydoliaeth ddwyfol a phenawdurdod ysgrythurau’r Hen Destament a’r Newydd, sef gair ysgrifenedig Duw – yn gwbl ddibynadwy ar gyfer ffydd ac ymarweddiad.
Yn urddas pob person, a grëwyd yn wryw a menyw ar lun a delw Duw i garu, bod yn sanctaidd a gofalu am y greadigaeth, a lygrwyd gan bechod, sy’n ennyn digofaint a barn gyfiawn.
Yn ymgnawdoliad Mab tragwyddol Duw, yr Arglwydd Iesu Grist – a anwyd o’r Forwyn Fair; gwir ddwyfol a gwir ddynol, ac eto heb bechod.
Yn aberth cymodlawn Crist ar y groes: yn marw yn ein lle, yn talu pris pechod a gorchfygu’r drwg, a thrwy hynny ein cymodi gyda Duw.
Yn atgyfodiad corfforol Crist, ffrwythau cyntaf ein hatgyfodiad, ei esgyniad at y Tad, a’i deyrnasiad ac eiriolaeth fel unig Achubwr y byd.
Yng nghyfiawnhad pechaduriaid yn unig trwy ras Duw trwy ffydd yng Nghrist.
Yng ngweinidogaeth Duw yr Ysbryd Glân, sy’n ein harwain at edifeirwch, yn ein huno gyda Christ trwy enedigaeth newydd, yn ein nerthu ni i fod yn ddisgyblion ac yn ein galluogi ni i dystiolaethu.
Yn yr eglwys, corff Crist yn lleol ac yn fyd-eang, offeiriadaeth yr holl gredinwyr – sy’n derbyn bywyd trwy’r Ysbryd a’u cyflenwi â doniau’r Ysbryd i addoli Duw a chyhoeddi’r efengyl, gan hyrwyddo cyfiawnder a chariad.
Yn nychweliad personol a gweladwy Iesu Grist i gyflawni pwrpasau Duw, a fydd yn codi pob person i farn, dod â bywyd tragwyddol i’r rhai a achubwyd a damnedigaeth dragwyddol i’r colledig, a sefydlu nefoedd newydd a daear newydd.